LYRIC

[Verse 1] O Tomos John Williams, mi welaf dy fedd
Ar gaeau glas Ffrainc sydd heddiw mewn hedd.
'Rwyt heddyw mor unig, mor bell o Fron Goch
A'r pabi yn unig sy'n cofio'r gwaed coch.
Mi welaf nad oeddyt ddim ond deunaw oed
Wrth ddisgyn i'r Somme — dyna'r hanes erioed;
Wrth ymladd dros wledydd a thros eu rhyddhau
Mi gefaist yn ddeunaw i'r ddaear dy gau.

[Chorus 1] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.

[Verse 2] A phwy oeddan nhw ddwedodd wrthyt ysgwn
Mai swanc oedd o lanc ysgwyddo y gwn;
A phwy oeddan nhw efo'u hiwnifform swel
A'th ddriliodd, a'th fartsiodd, a'th fwrdrodd mewn sbel?
Ni welais drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd
Ni che'st ti mo'r cyfle i dyfu'n ddyn rhydd,
Ond drwy'r mŵg a thrwy'r medals wrth ddisgyn i'r llawr
Mi welaist nad nhw fyddai'n wylo yn awr.

[Chorus 2] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.
{Verse 3] 'Roedd eraill mewn cell yn dy annwyl Fron Goch
Yn llwydaidd eu gwedd, yn cael bwyd cibau'r moch,
Ond fflam eu gwrthryfel a gadwant ynghyn,
A Werddon a gododd drwy safiad di-gryn.
Mi gawsant gaethiwed am geisio rhyddhau
Eu gwlad hwy o'r dwylo a'th yrrodd i'th wae,
A mam yn Mron Goch oedd a'i chalon yn drom
Wrth glywed fod llencyn yn llwch yn y Somme.

[Chorus 3] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.

[Verse 4] Mae dynion yn Llundain o'u seddau'n Whitehall
Yn gyrru i ryfel rhai byth na ddon 'nol,
O slymiau tre Glasgow, neu Gymru cefngwlad
Mae hogyn diniwed yn crychu y gad —
I farw neu ynteu i ladd ei gyd-ddyn,
Yn enw rhyw ryddid nas gŵyr ei hun,
'Rwyt ti Tomos Williams ddim yn y byd
Yn disgyn yn 'sglyfaeth i'r ffosydd o hyd.

[Chorus 4] Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wladgarwr,
Ac ni chwifiwyd y baner ar hanner y mast,
Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo,
Gan y rhai oedd a gwaed ar eu dwylo.

Added by

Admin

SHARE

Your email address will not be published. Required fields are marked *

ADVERTISEMENT